Mae YMDDIRIED yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a cyfryngau newydd.
Gall YMDDIRIED roi cymorth i fudiadau sy'n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.
Sefydlwyd Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig ar Fawrth 1af, 1988, gyda’r bwriad o ddosrannu arian i ymgeiswyr a oedd yn awyddus i ymestyn eu profiad ym maes y cyfryngau.
Ar hyn o bryd, Mari Beynon Owen yw Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, a'r Ysgrifennydd yw Mali Parry-Jones.
Yr Ymddiriedolwyr eraill yw Peter Edwards, Sian Gâle, Gwenda Griffith, Kathryn Morris, Wil Stephens ac Euryn Ogwen Williams.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, gan amlaf ddiwedd Mawrth a dechrau Medi, er mwyn trafod y ceisiadau hyn.