Mae YMDDIRIED yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a cyfryngau newydd.

Gall YMDDIRIED roi cymorth i fudiadau sy'n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.

 

NEWYDDION

Ysgoloriaeth Ymddiried 2010

Rhagarweiniad

Mae Ymddiried yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i hyrwyddo a hwyluso mynediad i weithgaredd addysgol a datblygol yn y diwydiannau creadigol: teledu, ffilm, radio a gwasanaethau digidol. Ei nod yw ymestyn a chyfoethogi ystod sgiliau a phrofiad pobl sy'n gweithio'n broffesiynol yn y cyfryngau er budd gwylwyr, gwrandawyr a defnyddwyr yng Nghymru.

Hyd yma derbyniodd nifer o unigolion grant gan Ymddiried, yn amrywio o £200 i £6,000, a'u galluogodd i fynychu cyrsiau penodol, cynlluniau hyfforddi, cynhadleddau a gwyliau er mwyn ymestyn eu profiad addysgol a phroffesiynol. Dyfernir y grantiau ddwy waith y flwyddyn.

Eleni, penderfynwyd ar gynnig ysgoloriaeth swmpus newydd, yn ychwanegol i'r grantiau arferol, er mwyn gallu cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol unigolyn sydd yn dyheu i ddilyn gyrfa a gwireddu uchelgais. Gan gynnig swm ariannol sylweddol, y bwriad yw ysgogi a hybu person i fanteisio ar gyfle penigamp ac unigryw i wneud cyfraniad sylweddol i'r diwylliant a'r diwydiant cyfryngol.

Manylion

Ymgeisio

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson uchelgeisiol ac ymroddgar sydd yn barod wedi cychwyn ei g/yrfa yn y diwydiannau creadigol. Bydd angen profi deallusrwydd, dyfalbarhad ac afiaith am ddilyn trywydd newydd arbennig.

Ystyrir ceisiadau i ddatblygu gyrfa mewn teledu, ffilm, radio a gwasanaethau digidol: byddai modd hefyd ystyried cynlluniau hyfforddiant ar draws y meysydd hyn er mwyn adlewyrchu datblygiadau aml-blatfform.

Gallwn ystyried cefnogi dilyniant gyrfa artistig, gyrfa rheolaeth/busnes creadigol neu cyfuniad o'r ddau.

Mae'n ofynnol fod yr ymgeisydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd.

Cyfanswm y grant

Bydd hyd at £30,000 ar gael i'w wario dros dair mlynedd ar weithgaredd penodol. Bydd y cyfanswm a roddir yn ddibynnol ar y cais ariannu a gyflwynir - gweler y canllawiau ymgeisio isod.

Bydd cynllun ariannu yn cael ei gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus ar gychwyn cyfnod yr ysgoloriaeth. Cynhelir adolygiad blynyddol o'r cynllun hyfforddiant ac asesiad o ddatblygiad yr ymgeisydd.

Astudiaethau / hyfforddiant cymwys

- cwrs galwedigaethol lefel uwch

- doethuriaeth mewn pwnc yn gysylltiedig a'r diwydiannau creadigol

- swydd preswyl

- profiad gwaith estyngedig o fewn cwmni neu sefydliad cydnabyddedig

- cynllun hyfforddiant mewnol gyda chwmni neu sefydliad cydnabyddedig

Gellir defnyddio'r arian i ariannu cyfuniad o'r uchod os yw'n amlwg fod dilyniant clir a phwrpasol i ddatblygiad personol a phroffesiynol yr ymgeisydd.

Byddem yn croesawu cynlluniau datblygu personol sydd yn ystyried mathau gwahanol o hyfforddiant ac nid o reidrwydd yn dilyn y patrwm ffurfiol o gyrsiau hyfforddiant, e.e gellid defnyddio'r arian i alluogi'r unigolyn i gael ei r/hyddau o waith/swydd os yw'r amcanion datblygiad proffesiynol yn glir.

Nid oes rhaid i'r gweithgaredd/hyfforddiant/cwrs gael ei leoli yng Nghymru,

Bydd Ymddiried yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus trwy benodi mentor personol dros y cyfnod penodedig.


Dethol

Cais ysgrifenedig

Ni fydd ffurflen gais benodol a dylid cyflwyno cais cynhwysfawr i gynnwys y canlynol:

- braslun bywyd a gyrfa (CV)

- amlinelliad o sgiliau a phrofiad perthnasol

- cynllun datblygiad gyrfaol personol gan fanylu ar ddilysrwydd a pherthnasedd y gweithgaredd/hyfforddiant datblygol- cwricwlwm/rhaglen waith/manylion cwrs

- os yw'r weithgaredd yn cael ei gynnig trwy gwmni masnachol/asiantaeth/sefydliad neu drwy hyfforddiant unigol, bydd angen manylion busnes/corfforiaethol er mwyn profi dilysrwydd

- cais ariannol - costau hyfforddiant/costau byw a threuliau

- geirda gan ddau ganolwr/aig


Dylai'r cais fod oddeutu 5,000 o eiriau.

Dyddiad cau: Mehefin 30ain, 2010 am 5.00 y pnawn

Ni ystyrir unrhyw gais sy'n cyrraedd wedi hynny. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau fod y cais wedi' dderbyn.

Dylid gyrru'r ffurflenni cais ar ebost, pan yn bosib at: gwybod@ydg.org.uk

Neu drwy'r post at: Yr Ysgrifennydd, Ymddiried, d/o Islwyn, Lon Terfyn, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd LL53 6AP

Cyfweliadau

Bydd rhestr fer yn cael ei lunio yn gynnar ym mis Gorffennaf, gyda'r cyfweliadau ffurfiol o flaen panel o Ymddiriedolwyr i'w cynnal ar ddydd Iau, Gorffennaf 29ain, 2010

Designed & Hosted
by WiSS Ltd
Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig. Islwyn. Lôn Terfyn. Morfa Nefyn. Pwllheli. Gwynedd. LL53 6AP
Ffôn: 01758 720 132 (ar ôl 6yh) Symudol: 07788 428 188 E-bost: gwybod@ydg.org.uk
Enw defnyddiwr:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair