Mae YMDDIRIED yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a cyfryngau newydd.

Gall YMDDIRIED roi cymorth i fudiadau sy'n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.

 

Amcanion

Er mwyn cyflawni ei hamcanion, mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi...

1. Mynychu cyrsiau hyfforddi addas neu gyrsiau galwedigaethol datblygiadol, rhan-amser neu lawn-amser, e.e. gweithdai sgriptio / sgiliau technegol arbenigol / hanfodion busnes.


2. Mynychu cyrsiau addysg gradd uwch.

3. Grantiau teithio i wyliau / marchnadoedd cydnabyddedig.

4. Mudiadau neu gwmnïau sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi / addysgiadol penodol.

5. Prosiectau sy’n cyfoethogi’r profiad diwylliannol drwy gyfrwng teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau newydd.

 

Sylwer nad yw’r Ymddiriedolaeth yn ariannu ceisiadau i fynychu cyrsiau gradd gyntaf.

Designed & Hosted
by WiSS Ltd
Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig. Islwyn. Lôn Terfyn. Morfa Nefyn. Pwllheli. Gwynedd. LL53 6AP
Ffôn: 01758 720 132 (ar ôl 6yh) Symudol: 07788 428 188 E-bost: gwybod@ydg.org.uk
Enw defnyddiwr:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair